Timau arwain
Diwrnod neu ddau o waith penodol gyda'r tîm i gytuno beth sydd angen newid, cryfhau penderfyniadau ac egluro sut bydd pawb yn gweithredu.

Seicoleg ymarferol i helpu arweinwyr i wneud penderfyniadau gwell, gweithredu'n gyflymach a sicrhau newid sy'n para.
Darganfod ein dullIoan Rees ydw i, seicolegydd siartredig a sylfaenydd SYCOL. Rwy'n gweithio gydag uwch arweinwyr i wella'r ffordd y mae pobl yn gwneud penderfyniadau, yn cydweithio ac yn troi bwriad yn weithredu.
Mae strategaeth yn bwysig. Ond yr hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth yw arweinyddiaeth, ymddygiad a'r arferion sy'n llywio gwaith bob dydd.
Sut gall SYCOL helpuRydym yn defnyddio seicoleg i ddeall beth sy'n helpu pobl i berfformio ar eu gorau, a beth sy'n eu dal yn ôl. Y nod yw sicrhau bod ffordd well o weithio yn dod yn arfer, nid yn fwriad da yn unig.
Rwy'n gweithio'n uniongyrchol gyda thimau arwain i gryfhau penderfyniadau, gwella cydweithio a chyflymu gweithredu. Ar ôl diwrnod neu ddau o waith dwys, bydd eich tîm yn gadael gyda Chynllun Perfformiad y Tîm a chynllun gweithredu clir ar gyfer y 90 diwrnod nesaf.
Diwrnod neu ddau o waith penodol gyda'r tîm i gytuno beth sydd angen newid, cryfhau penderfyniadau ac egluro sut bydd pawb yn gweithredu.
Cefnogaeth seicolegol a her adeiladol i ddatblygu barn gadarn, gwneud penderfyniadau anodd a chodi safon perfformiad.
Datblygu'r arferion, y safonau a'r systemau sy'n helpu sefydliadau i weithio'n well a chynnal cynnydd dros amser.
Mae dull Adeiladu–Ymgorffori–Cynnal™ SYCOL yn cysylltu strategaeth, arweinyddiaeth ac ymddygiad â'r ffordd y mae sefydliad yn gweithredu.
Mae gwaith SYCOL wedi cynnwys sefydliadau ar draws darlledu, addysg, iechyd, technoleg, cyllid a'r sector cyhoeddus, gyda ffocws ar arweinyddiaeth, diwylliant a pherfformiad.

“Mae Dr Ioan wedi ein cefnogi i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder yn S4C, gan greu iaith a diwylliant cyffredin lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel, wedi'u grymuso ac yn atebol i wneud eu gorau.”
“Ioan provided our company a framework and set of tools to engage all our staff in building and innovating systems and processes that will allow us to continue growing while ensuring a high-performance culture.”
“Ioan helped us with our own development as a team and how we work and communicate together and he has helped me personally grow my leadership capability, credibility and results.”
Os hoffech drafod sut gall SYCOL helpu'ch tîm arwain neu'ch sefydliad, cysylltwch â mi'n uniongyrchol.
Cysylltwch